Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 15 Mawrth
2016
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3545
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 6 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Dechreuodd yr eitem am 14.24
Dechreuodd yr eitem am 14.52
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5999 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o
Reoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
(Diwygiadau Canlyniadol) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r
fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror
2016.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
5 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 15.03
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5998 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgôr Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Chwefror 2016.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
12 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 15.16
NDM5992 Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter, sy'n ymwneud â gwelliannau i Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 mewn perthynas â'r cynllun Awdurdod Sylfaenol a gwelliannau i Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 mewn perthynas ag egwyddorion a chod y rheoleiddwyr, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.20
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5994 Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter sy'n ymwneud â chyfyngu ar daliadau ymadael y sector cyhoeddus, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
12 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 15.42
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5995 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Tai a Chynllunio sy'n ymwneud â phrynu gorfodol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru,.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
0 |
0 |
52 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 15.51
NDM5996 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter, sy'n ymwneud â rhannu gwybodaeth mewn perthynas â phrentisiaethau, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.53
NDM5993 Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y Deyrnas Unedig ystyried y darpariaethau yn y Bil Mewnfudo sy'n ymwneud â gofynion iaith Gymraeg ar gyfer gweithwyr penodol yn y sector cyhoeddus, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y pump eitem ganlynol gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.
Dechreuodd yr eitem am 15.56
NDM6001 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) (Rhif 2) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2016.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6002 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 3) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2016.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6003 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 4) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2016.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
12 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6004 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o
Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 5) 2016 yn cael ei llunio yn unol
â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23
Chwefror 2016.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
12 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
NDM6005 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o
Orchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Darpariaethau Canlyniadol)
2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2016.
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.27
Daeth y cyfarfod i ben am 16.32
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 16 Mawrth 2016